Mae Profiadau sy’n Gysylltiedig â Gyrfaoedd a Gwaith (CWRE) nawr yn thema orfodol sy’n croestorri pob elfen o fframwaith y Cwricwlwm i Gymru i ddisgyblion rhwng 3 ac 16.
Mae Profiadau sy’n Gysylltiedig â Gyrfaoedd a Gwaith yn galluogi disgyblion i ddatblygu’r wybodaeth sydd ganddynt, e’u sgiliau a’u dealltwriaeth wrth baratoi at yr heriau a’r cyfleodd sydd o’u blaenau wrth iddynt ddysgu ymhellach ac wrth iddynt gamu i fyd gwaith sy’n fythol ddatblygu.
Er mwyn cefnogi ysgolion wrth iddynt ddylunio eu cwricwlwm, mae’n bwysig deall elfennau allweddol y fframwaith. Gellir dod i hyd i’r wybodaeth honno ar y dudalen hwb ganlynol:
Dyluniwyd y pecyn cymorth hwn gan Gonsortiwm Canolbarth y De er mwyn helpu ysgolion i adolygu eu darpariaeth, dylunio mewn modd perthnasol ac asesu safon y Profiadau sy’n Gysylltiedig â Gyrfaoedd Gwaith ar draws yr ysgol.
Gellir dod o hyd i’r pecyn cymorth fan hyn. Neu gallwch lawr lwythno copi fan hyn.
Mae’r pecyn cymorth hwn yn adnodd i gefnogi ysgolion i wireddu a gwreiddio Profiadau sy’n Gysylltiedig â Gyrfaoedd a Gwaith yn eu hysgolion. Gellir dod o hyd i’r pecyn cymorth fan hyn
Mae Ymestyn yn Ehangach yn bartneriaeth o brifysgolion, ysgolion a cholegau sy’n cydweithio er mwyn gwella mudoledd cymdeithasol drwy sicrhau bod gymaint o bobl a phosib yn gallu profi pob math o addysg uwch. Gelir dod o hyd i’r cynnig i ysgolion fan hyn
Fan hyn gellir dod o hyd i’r wybodaeth ddiweddara parthed yr economi, addysg, sgiliau, hyfforddiant a’r gweithlu yn ardal Prifddinas Rhanbarth Caerdydd, yn ogystal ag adroddiadau grymus sy’n manylu ar y data hwn ar lefel rhanbarthol ac ar lefel awdurdodau lleol unigol. Efallai y bydd hwn o gymorth wrth i chi gynllunio eich cwricwlwm.
Fan hyn fe welwch gwahanol opsiynau ar gyfer cymwysterau all gefnogi gwahanol lwybrau dysgu a fydd efallai o gymorth i chi wrth i chi gynllunio a dylunio'r cwricwlwm.
Mae Prosiect Peirianneg Cymoedd Cymru (WVEP) yn rhaglen addysg beirianneg, a sefydlwyd gan yr Academi Beirianneg Frenhinol sy’n darparu cymorth addysg STEM i fyfyrwyr ac athrawon, ac yn darparu cyfleoedd ac arweiniad gyrfa y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth.
Bydd y daflen wybodaeth hon yn eich arwain at ystod o fideos sy’n trafod gwahanol sectorau o gyflogaeth er mwyn rhoi gwell dealltwriaeth i chi o’r math o waith sydd ar gael neu’r llwybr sydd orau i chi.