Cyflogwyr a Busnes
Cyflogwyr a
Busnes
Mae gan Fusnesau a Chyflogwyr ran allweddol i'w chwarae yn llesiant a chyflawniad pob dysgwr. Byddwn yn gweithio gyda chi i
- gynyddu ymwybyddiaeth plant a phobl ifanc o fyd gwaith
- rhannu eich profiadau gyda'n hysgolion er mwyn hybu ymwybyddiaeth y disgyblion ac ehangu eu dewisiadau gyrfaol
- rhoi eglurder i rieni a phobl ifanc ynghylch y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnynt ar gyfer gwahanol sectorau cyflogaeth a modelau prentisiaeth y dyfodol
- darparu ystod o lwybrau dysgu i sicrhau ein bod yn cefnogi anghenion ac uchelgeisiau pob plentyn
- datblygu ffyrdd arloesol o gefnogi'r cwricwlwm a chyfrannu at godi dyheadau a safonau


Darllenwch am Ffair Yrfaoedd Clwstwr Cyfarthfa a gynhaliwyd gyda dros 22 o gyflogwyr gwahanol!
Arwyddwch y SEAL
Partneriaeth Addysg Fusnes ar y cyd
Arwyddwch SEAL” y Bartneriaeth Busnes Addysg – Sut gall arwyddo’r SEAL eich cefnogi chi? Sut gall y Bartneriaeth Addysg Busnes helpu?
Y SEAL – Addewid Busnes a Chyflogwyr
Mae addewid cyflogwyr y SEAL ym Merthyr Tudful yn cefnogi’r weledigaeth y bydd y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector yn gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion a darparwyr addysg, i gysylltu plant a phobl ifanc â’r ystod eang o gyfleoedd sydd ar gael iddynt yn y byd gwaith.

Sut gallwch chi ein helpu ni drwy arwyddo’r SEAL?
Fel busnes a chyflogwr, gallwch chi helpu ein plant a phobl ifanc mewn sawl ffordd. Dyma rai ohonynt:
- Mentora
- Digwyddiadau Agored
- Bydis Darllen neu Rifedd
- Sgyrsiau yn y Dosbarth
- Cyfleoedd gwirfoddoli
- Lleoliadau Profiad Gwaith
- Cefnogaeth prentisiaeth
Gallwch chi ein helpu ni i ddod â chyd-destun bywyd go iawn i weithgareddau dysgu

Sut gall y Bartneriaeth Busnes Addysg eich helpu chi fel cyflogwr/busnes?
- Gallwch chi wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau plant a phobl ifanc
- Gallwch chi ddatblygu’ch staff mewn llawer o wahanol ffyrdd
- Gallwch chi arddangos cyfrifoldeb cymdeithasol eich corfforaeth!
- Gallwch chi wneud eich busnes a'ch sector yn agored i'r genhedlaeth nesaf
- Gallwch chi wneud addysg yn fusnes i bawb!