Ein

Cynnig

Mae SEAL yn ymrwymiad gan fusnesau ac ysgolion i gefnogi’r weledigaeth i GODI DYHEADAU, CODI SAFONAU!

Mae’n dod â byd addysg a busnes ynghyd, gan weithio mewn partneriaeth i ddarparu profiadau a chyfleoedd sydd ar gael yn y byd gwaith.

Gyda’i gilydd, mae’r bartneriaeth yn helpu pobl ifanc i ennill y sgiliau sydd eu hangen arnynt i fod y gorau y gallant fod.

Help yn yr Ysgol!

Helpwch ni; i’ch Helpu chi!

Byddwn yn gweithio gyda'ch ysgol, Gyrfa Cymru a'r Coleg i roi'r cyfle ichi gwrdd â chyflogwyr. Bydd hyn yn eich helpu i ddeall

  • eu diwydiant
  • y math o sgiliau y bydd eu hangen arnoch
  • y gwahanol lwybrau sydd ar gael i gyrraedd yno
  • y math o swyddi sydd ar gael
  • y mathau o bobl y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt

 

Gallwch chi gymryd rhan mewn

  • digwyddiadau agored
  • cyfweliadau ffug
  • ymweliadau â gweithleoedd 
  • prosiectau cwricwlwm 
  • profiad gwaith
  • sgyrsiau
  • mentora