Rydyn ni eisiau gweithio gyda chi i ddeall yr hyn fydd ei angen ar eich plant i sicrhau llwyddiant.
Rydyn ni am weithio gyda chi i ddatblygu eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u dealltwriaeth er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn barod i lwyddo.
Rydyn ni am gefnogi eich plant i ddatblygu’n ddysgwyr galluog ac uchelgeisiol, yn gyfranwyr mentrus a chreadigol, yn ddinasyddion moesegol a gwybodus, ac yn unigolion iach a hyderus sy’n barod i fyw bywydau cyflawn.
Rydyn ni am rannu’r byd gwaith gyda chi a rhoi amcan ichi o’r galw sydd am gyflogaeth ym Merthyr Tudful a’r ardaloedd cyfagos.