Roedd y Coleg ym Merthyr Tudful yn orlawn â chyflogwyr, Ddydd Llun 10 Gorffennaf 2023 wrth i Ysgolion Cynradd Clwstwr Cyfarthfa ac Ysgol Uwchradd Cyfarthfa ymuno mewn partneriaeth â’r Coleg a Gyrfa Cymru.
Sut gall arwyddo’r SEAL eich cefnogi chi? Sut gall y Bartneriaeth Addysg Busnes helpu?
Rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth â’r Coleg, Merthyr Tudful, Gyrfa Cymru, Aspire ac Inspire U, gan roi mynediad i chi at amrywiaeth o gyfleoedd gwahanol.
Mae gennym nifer cynyddol o fusnesau sy’n addo cefnogi addysg. Mae'r rhain yn cynnwys y Cyngor, EE a Pharc Beicio Cymru. Gallwn eich cysylltu â’n partneriaid busnes i ddatblygu eich uchelgeisiau cwricwlaidd a chefnogi sgiliau’ch plant a phobl ifanc.
Gallwn godi eich ymwybyddiaeth o’r sectorau twf ym Merthyr Tudful yn ogystal ag amlygu lle bydd swyddi’r dyfodol. Byddwn yn codi eich ymwybyddiaeth o'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i gael mynediad at y swyddi lefel-uchaf.